Pencadlys Cyngor Gwynedd
Mae disgwyl i gabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo cynlluniau i agor ymgynghoriadau i gau tair ysgol yn y Bala ac uno ysgolion eraill yn yr ardal.

Mewn cyfarfod heddiw, fe fydd aelodau o gabinet Cyngor Gwynedd yn trafod y cynllun gwerth £9.27 miliwn i gau Ysgol Beuno Sant, Ysgol Bro Tegid, ac Ysgol y Berwyn yn Y Bala a sefydlu ysgol ar gyfer disgyblion 3-19 oed ar safle Ysgol y Berwyn.

Fe fydd cynnig arall i gyfuno rheolaeth o Ysgol Bro Tryweryn, Ysgol Ffridd y Llyn ac Ysgol OM Edwards yn cael ei drafod hefyd.

‘Ddim yn gynaliadwy’

Mae trafodaethau ynglŷn â’r ddarpariaeth addysg yn ardal y Bala wedi cael eu cynnal ers 2009 gan y cyngor.

“Rydw i’n gwybod fod y cymunedau lleol yn awyddus i symud y gwaith yn ei flaen cyn gynted â phosib,” medda’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Addysg.

“Nid yw’r sefyllfa fel y mae yn y Bala ar hyn o bryd yn gynaliadwy – mae niferoedd y disgyblion wedi gostwng dros y 25 mlynedd ddiwethaf gan arwain at ddosbarthiadau yn rhai o’r ysgolion i fod yn hanner gwag.”

Ychwanegodd: “Nid yw’r rhai o hen adeiladau ysgolion yn addas  i bwrpas ar gyfer addysgu yn yr 21ain ganrif.”

Petai’r Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion, byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill gyda phenderfyniad terfynol ar gau’r ysgolion yn cael ei wneud ym mis Medi eleni.