Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin
Fe allai Arlywydd Rwsia Vladimir Putin geisio ansefydlogi gwledydd eraill y Baltig, fel sydd wedi digwydd yn yr Wcráin, mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn wedi rhybuddio.
Dywedodd Michael Fallon bod yn rhaid i Nato fod yn barod am wrthdaro gyda Rwsia wrth iddo gydnabod bod tensiynau rhwng cynghreiriaid Nato a Moscow “yn poethi”.
Daeth ei sylwadau ar ôl i’r Prif Weinidog David Cameron alw ar Ewrop i’w gwneud yn glir i Rwsia ei bod yn wynebu sgil-effeithau economaidd ac ariannol “am flynyddoedd i ddod” os nad yw’n rhoi terfyn ar y gwrthdaro yn yr Wcráin.
Roedd lluoedd yr Wcrain wedi tynnu nôl o dref strategol bwysig, Debaltseve, ar ôl brwydro ffyrnig gyda gwrthryfelwyr sy’n cael cefnogaeth Rwsia. Roedd yr ymladd wedi parhau er gwaethaf cadoediad a ddaeth i rym ddydd Sul yn dilyn trafodaethau rhwng y ddwy ochr.
Cafodd chwech o filwyr yr Wcrain eu lladd yn y gwrthdaro, meddai Arlywydd y wlad Petro Poroshenko.
Dywedodd Michael Fallon ei fod yn bryderus y gallai Vladimir Putin ddefnyddio’r un tactegau yn erbyn gwledydd eraill y Baltig, fu’n rhan o’r undeb Sofietaidd, fel Latfia, Lithwania ac Estonia.
Bu Michael Fallon yn siarad gyda newyddiadurwyr yn ystod taith i Sierra Leone.