David Cameron
Mae David Cameron wedi cyhoeddi y bydd cyllid fesul disgybl mewn ysgolion yn cael ei diogelu gan lywodraeth Geidwadol ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

A dywedodd y Prif Weinidog y bydd y polisi yn golygu mwy o arian i ysgolion yn gyffredinol oherwydd bod nifer y disgyblion yn codi.

Daeth y cyhoeddiad wrth i’r Prif Weinidog nodi cynlluniau i ddiswyddo penaethiaid sydd ddim yn gwneud eu gorau.

Mae’r polisi i warchod gwariant ysgolion gan y Ceidwadwyr yn dod yn sgil addewid i ddiogelu cyllid y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Dywedodd David Cameron fod y Ceidwadwyr wedi dangos yn ystod y pum mlynedd diwethaf y gallan nhw “amddiffyn cyllideb ysgolion tra’n lleihau’r diffyg ariannol” ac y byddan nhw’n “gwneud hynny eto”.