Chris Grayling
Mae’r Prif Arolygydd Prawf wedi ymddiswyddo oherwydd pryderon y gallai swydd ei wraig achosi gwrthdaro buddiannau.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Chris Grayling, heddiw y byddai Paul McDowell yn camu o’i swydd.

Daw ei ymddiswyddiad ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai ei wraig, Janine, yw dirprwy reolwr gyfarwyddwr y cwmni cyfiawnder preifat Sodexo, a enillodd gytundebau i redeg gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr.

Fe wnaeth Chris Grayling longyfarch “arweinyddiaeth sicr” Paul McDowell yn ei waith a phwysleisiodd fod y prosesau gwirio wedi cael eu dilyn yn gywir pan gafodd Paul McDowell ei benodi ym mis Tachwedd 2013.

Ychwanegodd Chris Grayling: “Rwy’n gresynu bod amgylchiadau wedi newid nes ein bod ni wedi cyrraedd y sefyllfa hon.”

Dywedodd hefyd y byddai’r pwyllgor dethol ar gyfiawnder yn rhan o broses o benodi olynydd parhaol.