Protestiadau yn yr Aifft yn 2013
Mae llys yn yr Aifft wedi dedfrydu 183 i’r gosb eithaf am ladd 15 o blismyn ar ôl i’r Arlywydd Islamaidd, Mohammed Morsi, gael ei ddisodli yn 2013.

Mae’r achos yn dilyn un o nifer o achosion llys torfol eraill yn yr Aifft sydd wedi sbarduno protestiadau rhyngwladol dros ddedfrydu cannoedd o ddiffynyddion ar gyhuddiadau tebyg.

Mae llawer o’r dedfrydau wedi cael eu gwrthdroi ar apêl yn ddiweddarach, ac mewn un digwyddiad, cafodd y barnwr ei newid hefyd.

Cafodd y rhai a gafodd eu dedfrydu heddiw eu harestio am ymosod ar orsaf heddlu ym mhentref Kirdasah ger Cairo yn 2013. Digwyddodd yr ymosodiad ar ôl i luoedd diogelwch y wlad ymosod ar ddau wersyll protest oedd yn cynnwys cefnogwyr Mohammed Morsi ym mis Awst 2013, gan ladd cannoedd ohonynt.