Bedd Alexander Litvinenko
Roedd yr ymchwiliad post mortem yn achos yr ysbïwr o Rwsia, Alexander Litvinenko, yn un o’r rhai “fwyaf peryglus erioed i gael eu cynnal yn y gorllewin,” yn ôl patholegydd yn yr achos.
Dywedodd Dr Nathaniel Cary bod yr ymbelydredd yng nghorff Alexander Litvinenko yn “peri risg” a’i fod wedi cael ei drosglwyddo i safle diogel er mwyn cynnal profion.
Roedd rhaid i arbenigwyr wisgo siwtiau diogelwch, menig gwarchodol a chael cyflenwad o aer drwy bwmp, yn ôl y patholegydd.
Cefndir
Bu farw Alexander Litvinenko ym mis Tachwedd 2006 ar ôl yfed te oedd wedi cael ei wenwyno gyda’r deunydd ymbelydrol poloniwm-210.
Cafodd ei wenwyno wrth gwrdd â dau ddyn o Rwsia yng Ngwesty’r Mileniwm yn Sgwâr Grosvenor, Llundain wyth mlynedd yn ôl. Andrei Lugovoi, a fu’n gweithio i’r KGB, a Dmitri Kovtun, sy’n cael eu hamau o’r llofruddiaeth.
Mae teulu Alexander Litvinenko o’r farn ei fod yn gweithio i MI6 ar y pryd a’i fod wedi cael ei ladd ar orchymyn y Kremlin.