Mae Golwg360 wedi cael ar ddeall bod Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru’n wynebu dyfodol ariannol ansicr.
Maen nhw’n colli dwy o grantiau mawr, sydd werth bron £140,000 ac, ym marn Cadeirydd y mudiad, Iwan Meirion, mae’n bygwth swyddi.
Fe glywodd Cyngor y mudiad y penwythnos diwetha y bydd y mudiad yn wynebu newidiadau mawr ac mae swyddogion yn chwilio am ffynhonellau newydd o gefnogaeth.
Fe allai hefyd olygu torri ar beth o’r gweithgareddau.
‘Siomedig’
Dywedodd Cadeirydd CFfI Cymru, Iwan Meirion: “Rydym yn hynod siomedig o dderbyn y newyddion hyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol. Mae’r cyllid hwn yn angenrheidiol i ni gynnal ein rhaglenni addysgol i filoedd o bobl ifanc sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru.
“Er ein bod ni’n deall ac yn disgwyl y byddai’r mudiad yn gorfod ysgwyddo rhywfaint o faich y toriadau yn y sector cyhoeddus, roedd maint y toriadau hyn yn syndod mawr”.
“Dros y degawdau, mae’r CFfI wedi elwa o gefnogaeth neilltuol gan bobl cefn gwlad, rhanddeiliaid a mudiadau’r sector cyhoeddus. Rydym yn galw ar bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig i’n helpu ni sicrhau dyfodol y mudiad hwn sydd wedi bod o fudd i filoedd lawer o bobl ifanc dros y blynyddoedd.”
Grantiau
Mae’r toriadau’n cynnwys £20,000 gan gorff amgylcheddol y Llywodraeth, Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Pennaeth Cymunedau Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, Rhian Jardine: “Rydym yn cydnabod bod hon yn hinsawdd ariannol anodd i bob sefydliad.
“Derbyniodd y cynlluniau cyllido lawer mwy o geisiadau na’r disgwyl, a olygai bod 206 cais wedi eu bod ar gyfer cyfanswm cyfunol o £18 miliwn, a bu’n rhaid inni ystyried yr holl geisiadau yn ofalus cyn dod i benderfyniad.
“Er nad oes gennym y gyllideb i ariannu pob un ohonynt, rydym wedi cynnig cydweithio â’r rhai a fu’n aflwyddiannus, er mwyn eu helpu i gryfhau eu ceisiadau.
“Cyflwynodd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfIC) gais cryf ac maent yn y gronfa wrth gefn os bydd cyllid ar gael yn 2015/16.”
Mae’r grant arall o £120,000 gan gorff mudiadau ieunctid, yr NBYO.
‘Trasiedi’
Roedd y mater wedi ei godi eisoes yn y Cynulliad gan AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, a gan arweinwyr dwy o’r gwrthbleidiau, Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr, a Kirsty Williams, o’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Gofynnodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Llŷr Huws Gruffydd i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths yr wythnos diwethaf a oedd hi’n ymrwymo i fynd i’r afael â sicrhau dyfodol y mudiad.
Atebodd y Gweinidog drwy ddweud nad oedd hi’n ymwybodol o’r trafferthion.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wrth Golwg360 mai “trasiedi” yw diffyg ymwybyddiaeth y Gweinidog Cymunedau o waith y mudiad.
Dywedodd: “Mae’n drasiedi fawr nad yw [y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths] yn sylweddoli bod y Ffermwyr Ifanc yn gwneud gwaith gwych mewn ardaloedd gwledig o fewn y mudiad ieuenctid mwyaf yng Nghymru.
“Rwy’n annog y Gweinidog i sicrhau ei bod hi’n mynd i’r afael â’r diffyg ymgysylltu pryderus hwn o dan ei gwyliadwriaeth.”
Ychwanegodd Andrew RT Davies, sy’n gyn-Ddirprwy Lywydd Ffermwyr Ifanc Llantrisant: “Mae’r potensial o golli arian trwy grantiau’n dangos pa mor fyddar yw’r Llywodraeth Lafur hon i’r materion sy’n wynebu cymunedau gwledig ac yn enwedig pobol ifanc sy’n neilltuo’u bywydau i adeiladu cymuned gref a bywiog o fewn Ffermwyr Ifanc Cymru.”
Ymateb
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau wrth Golwg360 fod cais Ffermwyr Ifanc Cymru am un o’r saith Grant Mudiadau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru wedi bod yn aflwyddiannus.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y grant yn “grant cystadleuol sy’n cynnig arian craidd a phrosiectau i gefnogi mudiadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol”.
“Mae’r meini prawf ar gyfer ceisiadau’n cynnwys cynlluniau i dynnu adnoddau ychwanegol i mewn i wneud y mwyaf o ymgysylltiad ieuenctid, gan ddatblygu cyfleoedd i gyfranogwyr ddefnyddio’u Cymraeg ac ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd deilliannau sydd wedi’u hachredu ar gyfer pobol ifanc.”
Cadarnhaodd y llefarydd eu bod nhw wedi cynnig cyfarfod â’r mudiad i drafod eu cais.
Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn y grant ar gyfer 2015-2018 mae Urdd Gobaith Cymru, y Sgowtiaid a Gwobr Dug Caeredin.
Dywedodd Lowri Fflur o fudiad y Ffermwyr Ifanc yng Nghastell-nedd wrth raglen Post Cyntaf y BBC ei bod yn “ergyd fawr” i’r mudiad.
“Rhaid ymgymryd â’r her o symud ymlaen. Mae angen esbyglu, datblygu a symud ymlaen.
“Dim edrych yn ôl – edrych ymlaen sy’n bwysig.
“Mae’r mudiad yn cynnig cymaint i un person.”
‘Cyfleoedd amhrisiadwy i ddefnyddio’r iaith’
Dywedodd Dyfodol i’r Iaith ei fod yn hynod siomedig o glywed y newyddion.
Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Mae gwaith Clybiau Ffermwyr Ifanc yn fodel o’r hyn sy’n cynnal a diogelu’r iaith Gymraeg; sef cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i bobl ifanc ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun cymdeithasol, anffurfiol.
“Ehangu a datblygu gweithgareddau o’r math yw’r ffordd ymlaen, a gwrthwynebwn y bygythiad hwn i fudiad sydd ers blynyddoedd bellach wedi cefnogi a chyfoethogi’r iaith Gymraeg mewn cymaint o gymunedau cefn gwlad.”