Mae ymgyrchwyr yn dathlu wedi i Lywodraeth Cymru wrthod bwriad i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ger Rhuthun.
Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu cau’r ysgol gynradd oherwydd niferoedd isel o blant a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun.
Ond wedi gwrthwynebiad chwyrn gan yr Eglwys yng Nghymru, sy’n rhedeg yr ysgol, a rhieni lleol mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi dyfarnu na ddylid cau’r ysgol a bod gwendidau ym mhroses y cyngor o wneud penderfyniadau.
Ymgyrch
Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych bleidleisio dros gau’r ysgol ym mis Awst.
Ym mis Tachwedd 2012 roedd 21 o blant yn yr ysgol a 56 o lefydd gweigion, ond roedd rhieni ac ymgyrchwyr yn dadlau bod nifer y disgyblion yn codi.
Dywedodd yr AC Ceidwadol lleol Mark Isherwood: “Ar ôl ymweld â’r ysgol wych hon, cwrdd â staff a llywodraethwyr, rwy’n croesawu penderfyniad y Gweinidog yn llwyr.
“Rwyf hefyd yn galw ar Gyngor Sir Ddinbych i ailystyried ei gynigion i ad-drefnu ysgolion yr ardal ac i wrando ar bobol yn y broses.”
Fel rhan o Fframwaith polisi moderneiddio Addysg y cyngor, mae ysgolion cynradd eraill yn ardal Rhuthun yn wynebu cael eu cau.
‘Siomedig’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym wedi ein siomi gyda phenderfyniad y Gweinidog ac yn teimlo bod yr argymhelliad cywir wedi cael ei wneud.
“Mae’r gweinidog wedi canolbwyntio ar un mater, ac wedi selio ei benderfyniad ar hynny.
“Byddai’n amhriodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd am fod angen i’r cabinet ystyried y penderfyniad yn ofalus.”