Cyflwyno'r ddeiseb ar risiau'r Senedd heddiw Llun: Plaid Cymru
Mae deiseb wedi cael ei chyflwyno gerbron Llywodraeth Cymru heddiw yn gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth San Steffan i roi baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd.

Yn lle hynny mae’r ymgyrchwyr yn galw am beidio ag ychwanegu’r faner Brydeinig ar y drwydded, neu fod hawl gan unigolyn i ddewis rhoi baner Cymru yn ei lle.

Mae Llywodraeth San Steffan yn dweud ei bod am barhau gyda’i chynlluniau i roi Jac yr Undeb ar y trwyddedau, ond mae gwrthod y syniad o gael y dewis o ychwanegu’r Ddraig Goch.

Yn ôl San Steffan, byddai ychwanegu’r Ddraig Goch yn rhy gostus ac o bosib yn creu cymhlethdodau dramor.

Gwthio Prydeindod ar y Cymry?

Mewn cyfweliad ar raglen Hacio neithiwr fe ddywedodd sylfaenydd y ddeiseb, Gwenith Owen, fod penderfyniad Llywodraeth San Steffan yn “symbol o realiti gorthrwm Cymru” gan gyfrannu i “seicoleg ddyfnach Prydeindod”.

Roedd hi, ynghyd ag Aelodau Cynulliad gan gynnwys Elin Jones a Rhodri Glyn Thomas, ymysg y bobl fu’n cyflwyno’r ddeiseb i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd heddiw.

Yr wythnos diwethaf fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y dylai pobl gael yr hawl i ddewis pa faner, neu’r ddwy, i gael ar eu trwyddedau gyrru.

Dywedodd AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd fod y penderfyniad ddiwedd mis Rhagfyr i ychwanegu’r faner Brydeinig yn un “ansensitif”.

Mae dros 6,500 o bobl bellach wedi arwyddo’r ddeiseb.