Fe fydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn yn rhybuddio heddiw y bydd yn rhaid gwerthu rhagor o asedau milwrol er mwyn rhoi rhagor o adnoddau i luoedd rheng flaen.

Mae disgwyl i Michael Fallon ddweud bod y Llywodraeth Glymblaid wedi cyflwyno mesurau effeithlonrwydd tra’n cadw at darged Nato o wario 2% o’r cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) ar y lluoedd arfog.

Ond fe fydd yn mynnu nad yw’r gwaith wedi ei gwblhau ac y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth barhau i werthu adeiladau a thir milwrol.