Jamie Bevan o Gymdeithas yr Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi sefydlu apêl ariannol er mwyn paratoi i ddwyn gweinidogion Llywodraeth Cymru gerbron llys, yn dilyn honiadau eu bod wedi anwybyddu cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Dadl y grŵp ymgyrchu yw bod y gweinidogion gyda chyfrifoldeb am y Mesur Cynllunio wedi anwybyddu cyngor ysgrifenedig gan Gomisiynydd y Gymraeg – sy’n mynd yn groes i Fesur y Gymraeg 2011.
Dywed yr ymgyrchwyr bod Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, wedi ysgrifennu ddwywaith at y Llywodraeth gyda chyngor ynglŷn â’r Bil Cynllunio ac yn argymell gwelliannau penodol ynglŷn â’r iaith i’r mesur.
O ganlyniad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi derbyn cyngor gan brif gwnsler sy’n awgrymu bod achos cryf yn erbyn y Llywodraeth os nad yw’n cyflwyno newidiadau digonol i’r mesur yn ystod yr wythnosau nesaf.
Costau uchel
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae sefyllfa’r Gymraeg ar lefel gymunedol yn fregus. Rydym wedi cymryd cyngor cyfreithiol gan arbenigwr ar y materion hyn ac wedi pwyllo cyn ystyried y cam nesaf.
“Er mwyn bod yn barod ar gyfer cyflwyno cais i’r llys, mae’n rhaid i ni ddechrau codi arian, gan fod y goblygiadau cost yn uchel.”
Dywedodd bod y Llywodraeth wedi cael sawl cyfle i wrando ar gyngor arbenigol y Comisiynydd a’i weithredu, ond nad yw hynny wedi digwydd.
“Rydyn ni dal yn obeithiol y byddan nhw’n newid eu meddwl yn dilyn y gwrthwynebiad ffyrnig gan arweinwyr cynghorau ac eraill, ond does dim sicrwydd o hynny.
“Mae angen i’r Bil adlewyrchu anghenion unigryw Cymru er mwyn gwella’r amgylchedd, er mwyn cryfhau’r Gymraeg, ac er mwyn taclo lefelau tlodi. Ofer yw dynwared system sy’n bodoli yn Lloegr, gallai e fod yr hoelen olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg fel arall.”
Galwadau
Daw’r cam nesaf tuag at her gyfreithiol bosib wedi cyhoeddi llythyr agored gan draean o arweinwyr cyngor sir Cymru, oedd yn galw am newidiadau sylweddol i’r Bil oherwydd ei effaith ar yr iaith ac ar ddemocratiaeth leol.
Mae disgwyl i Aelodau Cynulliad gyhoeddi adroddiad ar gynnwys y Bil Cynllunio ar ddiwedd yr wythnos.