Bydd cynrychiolwyr athrawon mathemateg o bob rhan o Gymru’n dod at ei gilydd heddiw yn y gynhadledd fathemateg genedlaethol gyntaf erioed.

Nod y gynhadledd Mathemateg am Oes yng Nghaerdydd yw creu cyfleoedd i benaethiaid adrannau mathemateg rannu syniadau, arbenigedd ac arferion gorau ynglŷn â sut i ennyn diddordeb dysgwyr.

Mae’n rhan o ymgyrch gan y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, mewn ymateb i ganlyniadau TGAU yr haf diwethaf a ddangosodd bod cwymp yn safon canlyniadau mathemateg.

Arweinyddiaeth

Bydd siaradwyr o OECD, Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac Estyn yn cynnal gweithdai ymarferol ar arweinyddiaeth a hunanwerthuso a chysylltu mathemateg â sefyllfaoedd gwirioneddol, yn ôl y Llywodraeth.

Ar ôl y gynhadledd heddiw bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei sefydlu er mwyn cytuno ar gamau gweithredu, wedi’i gadeirio gan Michael Griffiths, cyn-brifathro Ysgol Gyfun Caerdydd.

“Er mwyn sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau cywir ar gyfer llwyddo ym myd gwaith, sy’n gynyddol gystadleuol, mae’n rhaid i ni anelu’n uwch yn yr ystafell ddosbarth,” meddai Huw Lewis.

“Roedd canlyniadau TGAU yr haf diwethaf yn arwydd da iawn fod addysg Cymru’n dilyn y trywydd cywir. Eto i gyd, teg yw dweud nad yw’r cynnydd mewn mathemateg cystal ag yr hoffem iddo fod.”