Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi cyfaddef bod Cymru’n cael llai o gam ariannol nag yr oedd.

Dywedodd y Prif Weinidog bod y “bwlch wedi cau” o ran y ffigwr sy’n dod i Gymru o San Steffan ond fod Llywodraeth Cymru yn dal i gael llai na’i haeddiant trwy Fformiwla Barnett.

Er hynny, mae’n dal i fynnu bod angen tegwch ac yn cyhuddo Llywodraeth San Steffan o wrthod ymateb i’w alwadau.

Mae’r ffigurau’n allweddol yn y ddadl tros ddatganoli pwerau treth incwm, er enghraifft, gyda Llafur yn mynnu bod rhaid cael tegwch cyllid cyn gwneud hynny.

Dro ar ôl tro mae Carwyn Jones wedi galw am “gyllido teg” gan San Steffan yn dilyn adroddiad gan yr economegydd, Gerry Holtham.

Yn 2010, fe ddywedodd adroddiad ei Gomisiwn ef fod Llywodraeth Cymru’n cael £300miliwn yn llai nag a ddylai bob blwyddyn – hynny o gyllideb gyfan o £15 biliwn.

Ond mewn llythyr yn Golwg ddechrau’r mis, pwysleisiodd Gerry Holtham mai dim ond tua £150 miliwn yw’r diffyg erbyn hyn wrth i wario cyhoeddus grebachu.

‘Dim tystiolaeth’

A’r wythnos hon, mewn cynhadledd i’r wasg, fe fu’n rhaid i Carwyn Jones ymateb i honiad Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, nad oedd Cymru’n cael cam.

“Ble mae’r dystiolaeth?,” meddai Carwyn Jones. “R’yn ni’n gwybod beth mae Comisiwn Holtham wedi dweud a does dim tystiolaeth o gwbl i ddweud bod y sefyllfa wedi’i datrys yn gyfan gwbl.

“Mae’n wir i ddweud bod y bwlch wedi cau ond beth sydd eisiau nawr ydi – a ni wedi dweud hwn wrth Stephen Crabb – fod y ddwy lywodraeth yn gallu cytuno ar ffigwr ynglŷn â beth yw’r bwlch. Ar hyn o bryd dydyn ni ddim wedi cael unrhyw gydweithrediad gan y Trysorlys.”

Mae’r pedair plaid yn y Cynulliad wedi galw ar y ddwy lywodraeth i ddod i gytundeb erbyn diwedd y mis yma ynghylch faint o arian yn ychwanegol sydd ei angen ar Gymru.

“Dyw hi ddim ddigon da i ddweud bod y Trysorlys yn edrych ar hyn a dod i fyny gyda ffigwr eu hunain, dyw (hynny) ddim yn iawn,” meddai Carwyn Jones.

“Mae’n rhaid cael cytundeb rhwng y llywodraethau er mwyn gweld beth yw’r sefyllfa nawr a dyna’r cynnig dw i wedi’i roi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ond heb (gael) ateb eto.”

Stori: Gareth Pennant