EDF yw’r cwmni ynni diweddaraf i gyhoeddi ei fod yn gostwng prisiau nwy o 1.3%.

Dywedodd y cwmni o Ffrainc, y byddai’r prisiau newydd yn dod i rym ar 11 Chwefror ac y byddai tua miliwn o gwsmeriaid yn elwa.

Dyma’r gostyngiad lleiaf sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y chwe chwmni ynni mawr, gan roi gostyngiad o £9 yn unig oddi ar filiau blynyddol.

Dywed EDF bod y cyhoeddiad  o ganlyniad i’r gostyngiad mewn prisiau craidd am nwy.

Mae E.ON, Nwy Prydain, Scottish Power, npower ac SSE eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw’n gostwng eu prisiau nwy.