Mae Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo cynllun i ad-drefnu ysgolion uwchradd ac adeiladu ysgol Gymraeg gyntaf y sir.
Heddiw, roedd y cabinet yn ystyried adroddiad gan gwmni gwasanaethau proffesiynol PricewaterhouseCoopers a ddywedodd bod angen “darparu gwasanaeth sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”
O’r 12 ysgol uwchradd sydd ym Mhowys, roedd yr adroddiad gwreiddiol yn awgrymu bod tair yn cau er mwyn lleihau’r llefydd gwag presennol. Ond mae’r cabinet wedi newid yr awgrym hwnnw i gau “nifer digonol” o ysgolion ac adeiladu o leiaf un ysgol Gymraeg.
Does dim manylion wedi cael eu datgelu am yr ysgolion fydd yn cau yn sgil yr ad-drefnu, na lleoliad yr ysgol Gymraeg hyd yma.
Adnoddau
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Jones, sy’n gyfrifol am addysg: “Mae’r adolygiad yn rhoi tystiolaeth glir bod angen i ni leihau nifer yr ysgolion uwchradd, dosbarthiadau’r chweched a newid y ffordd ry’n ni’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn gwneud y mwyaf o’n hadnoddau a darparu gwasanaeth sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
“Nid oes unrhyw amheuaeth am faint y dasg sy’n wynebu’r cyngor, ac nid yw ystyried cau ysgol, yn enwedig ysgol uwchradd, i’w gymryd yn ysgafn.
“Ond, mae’n rhaid i ni ymateb i niferoedd disgyblion yn gostwng a chyllidebau sy’n lleihau er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr ifanc yn cael y cyfleoedd addysgiadol gorau posibl.”
Ychwanegodd y dylai’r ad-drefnu ddarparu model ymarferol ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.