Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnig nifer o ddiwygiadau i Fil Cynllunio Llywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i ymgynghoriad ar y Bil Cynllunio, mae’r Cyngor wedi mynegi pryder am or-ddeddfu a chymhlethu’r broses a fyddai’n gallu arwain at bwysau ychwanegol ar adnoddau cynghorau lleol.
Fel rhan o’r sylwadau a gyflwynwyd, mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cynnig addasiadau er mwyn ceisio sicrhau fod ystyriaeth deg a thrylwyr i’r iaith Gymraeg wrth ystyried ceisiadau cynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio Cyngor Gwynedd, fod yr ymgynghoriad yn rhoi “cyfle arbennig” i’r cyngor gynnig newidiadau sylfaenol i’r gyfundrefn cynllunio.
Ychwanegodd bod cyfle i gyflwyno datrysiadau Cymreig i’r system gynllunio yma yng Nghymru.
‘Sicrhau statws cyfreithiol i’r iaith’
Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig: “Tra’n bod yn croesawu llawer o’r hyn sy’n cael ei gynnig er mwyn cadarnhau’r ffaith fod materion cynllunio wedi eu datganoli, rydym yn awyddus i sicrhau nad ydi hynny yn arwain at symud dylanwad a phenderfyniadau yn ddiangen o lefel leol i Gaerdydd, nac ychwaith yn rhoi baich ychwanegol ar adnoddau prin Awdurdodau Cynllunio Lleol.
“Fel Cyngor, rydym wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o bwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod ystyriaeth deg i’r Gymraeg mewn unrhyw ddeddfwriaeth newydd fydd yn edrych ar faterion cynllunio.
“Ein nod wrth gyflwyno ein diwygiadau ydi sicrhau statws cyfreithiol i’r iaith yn y ddeddf gynllunio newydd. Byddai sicrhau lle teilwng i’r iaith fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd yn gymorth i sicrhau fod iaith a diwylliant cymunedau Gwynedd a Chymru-gyfan yn cael eu gwarchod a’u cefnogi.”
Mae Cyngor Gwynedd wedi anfon ei sylwadau ar ymgynghoriad y Bil Cynllunio i Lywodraeth Cymru.
Bydd y Cyngor yn ystyried cyhoeddiadau pellach Gweinidog Tai ac Adfywio’r Llywodraeth dros y misoedd nesaf.