Fred Talbot
Fe wnaeth y cyflwynydd tywydd Fred Talbot ddefnyddio ei “egni cyson” a’i “bersonoliaeth fyrlymus” i ennill ffydd pum bachgen ysgol cyn eu cam-drin yn rhywiol, clywodd llys heddiw.
Mae Fred Talbot, 65, yn cael ei gyhuddo o gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn pump o blant yn eu harddegau, pan oedd yn athro bioleg yn Ysgol Ramadeg Altrincham.
Wrth agor yr achos yn Llys y Goron Manceinion, dywedodd yr erlynydd bod y nodweddion a wnaeth Fred Talbot yn gyflwynydd mor llwyddiannus wedi cael eu defnyddio hefyd i ddenu bechgyn ifanc.
“Fel nifer o bobol sy’n cam-drin plant ac sydd mewn swyddi o awdurdod, roedd yn cymryd y siawns na fyddai’r bechgyn yr oedd yn cymryd mantais ohonyn nhw yn siarad am eu profiadau am eu bod nhw yn ofni gwneud hynny,” meddai.
Mae Talbot yn gwadu’r 10 cyhuddiad yn ei erbyn ac mae disgwyl i’r achos barhau hyd at bedair wythnos.