Y Canghellor George Osborne
Fe all Aelodau Seneddol yr Alban gael eu gwahardd rhag pleidleisio dros agweddau o’r Gyllideb ar ôl i ragor o bwerau ar drethi a gwariant gael eu datganoli, yn ôl y Canghellor George Osborne.
Mae hyn yn groes i argymhelliad gan Gomisiwn Smith a ddywedodd y dylai Aelodau Seneddol yr Alban gael parhau i bleidleisio tros Gyllideb Prydain, gan gynnwys treth incwm.
Fe fydd y ddeddfwriaeth ddrafft ar ddatganoli pwerau ychwanegol i Holyrood yn cael ei chyhoeddi ddydd Iau.
Cytundeb
Wedi i’r pwerau ychwanegol gael eu datganoli, dywedodd George Osborne y byddai’n rhaid i’r Alban “fyw gyda’i benderfyniadau” – all olygu bod unigolion cyfoethog yn symud o’r wlad er mwyn osgoi talu cyfraddau treth uchel.
“Yn sgil y datganoli pellach yma mae angen dod i gytundeb sy’n deg i weddill Prydain, ac y dylai ASau yn Lloegr a Chymru yn unig gael pleidleisio ar faterion sy’n effeithio Lloegr a Chymru,” meddai’r Canghellor.
Ychwanegodd y bydd cynigion ar gyfer cynllun “Pleidlais i Loegr dros ddeddfau Lloegr” yn cael eu cyhoeddi cyn yr etholiad cyffredinol.