Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd i ddynes 60 oed sydd wedi bod ar goll o’i chartref yn ardal Blaengarw, Pen-y-bont ar Ogwr ers pum diwrnod.

Does neb wedi gweld Ann Jones ers tua 6yh nos Iau ddiwethaf, 15 Ionawr.

Yn ôl yr heddlu, mae hi’n 5 troedfedd 4 modfedd o daldra, gyda gwallt hir. Roedd hefyd yn gwisgo siaced frown pan gafodd ei gweld y tro diwethaf.

Mae’r AS lleol, Huw Irranca-Davies, wedi trydar i godi ymwybyddiaeth o’i diflaniad ac mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 150002041.