Heddlu Ffrainc
Mae adroddiadau bod pum person o weriniaeth Chechnya yn Rwsia wedi cael eu harestio yn ne Ffrainc ar amheuaeth o gynllwynio ymosodiad brawychol.

Mae’r papur newydd lleol, Midi Libre, yn dyfynnu’r erlynydd Yvon Calvet yn cadarnhau bod y pump wedi cael eu harestio ger Montpellier a Beziers.

Dyweodd Yvon Calvet nad yw hi’n glir a oedd ymosodiad brawychol wedi’i gynllwynio.

Cafodd storfa gudd o ffrwydron eu darganfod ger stadiwm yn Beziers.

Mae Ffrainc wedi bod ar ei gwyliadwraeth ers yr ymosodiadau ar swyddfa Charlie Hebdo ac archfarchnad Iddewig ym Mharis. Cafodd 17 o bobl eu lladd ynghyd a thri dyn arfog.

Heddiw, roedd pedwar dyn yn y llys i wynebu cyhuddiadau rhagarweiniol ar amheuaeth o fod â chysylltiadau ag un o’r dynion fu’n rhan o’r ymosodiadau brawychol ym Mharis.