Mae Mudiad Meithrin wedi lansio dogfen yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw sy’n amlinellu gweledigaeth y mudiad ar gyfer y ddegawd nesaf.

Yn ôl y mudiad, prif bwrpas y ddogfen ‘Dewiniaith’ yw “cynnig cyfeiriad i waith pob un sydd ynghlwm â Mudiad Meithrin a chynnig arweiniad i’n staff.”

Mae’r cynlluniau sy’n cael eu hamlinellu yn y ddogfen yn cynnwys ehangu a datblygu gofal plant trwy’r cylchoedd meithrin ac ymlaen i addysg Gymraeg; cynnal seremoni wobrwyo i gydnabod llwyddiannau cylchoedd; a mabwysiadu cynllun ‘Bodo’ wrth gydweithio â chyrff fel Merched y Wawr lle bydd “gwirfoddolwr yn darllen stori a helpu i wireddu egwyddorion cyfoethogi iaith a throchi, a phontio’r cylch â’r gymuned.”

Daw’r ddogfen yn dilyn gwaith cynllunio strategol gan dîm o staff y Mudiad.

‘Dechrau taith ieithyddol’


Meddai Rhiannon Lloyd, cadeirydd Mudiad Meithrin: “Mae cylch meithrin lleol yn bodoli mewn cannoedd o bentrefi, trefi a dinasoedd Cymru ac yn ganolbwynt pwysig i fywyd y gymuned wrth ddarparu gofal ac addysg o safon drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Ymfalchïwn yn y ffaith mai dyma ddechrau taith ieithyddol i nifer o blant o deuluoedd ble na siaredir y Gymraeg. Fel mudiad, byddem yn hynod falch o gael clywed barn pobl Cymru am gynnwys ‘Dewiniaith’, ac anogwn bawb i wneud hynny.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllian Lansdown Davies: “Gan ystyried pwysigrwydd cenedlaethol Mudiad Meithrin a’r ffaith ein bod yn perthyn i bawb yng Nghymru, gwahoddir ymatebion gan unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu sylwadau ar y cynnwys erbyn 20 Chwefror 2015.”

Mae modd lawrlwytho copi o wefan Mudiad Meithrin (www.meithrin.cymru) neu gael copi caled drwy ffonio 01970 639639.