Carwyn Jones
Mae angen i Lywodraeth Prydain roi’r dewis i bobl roi baner Jac yr Undeb neu faner Y Ddraig Goch ar eu trwyddedau gyrru, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Ychwanegodd Carwyn Jones ei fod yn credu bod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn teimlo’n falch o ystyried eu hunain yn Gymry yn ogystal â Phrydeinwyr.
Roedd yn ymateb i gwestiwn gan AC Plaid Cymru Elin Jones yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn siambr y Cynulliad y prynhawn yma.
‘Cynnig y dewis’
Ym mis Rhagfyr y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan gynlluniau i roi baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru, gan ddweud y byddai’n annog “hunaniaeth” Brydeinig.
Ond mae Plaid Cymru wedi mynnu y dylai pobl gael yr hawl i ddewis rhoi baner Cymru ar y drwydded yn lle hynny, ac mae dros 6,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb yn galw am hynny.
Dywedodd y Prif Weinidog heddiw nad oedd Llywodraeth San Steffan wedi trafod y mater gyda Llywodraeth Cymru, ond ei fod bellach wedi ysgrifennu atyn nhw i godi’r mater.
“Yr esgus gafodd ei roi wythnos diwethaf oedd pris, ond dyw hynny ddim yn ddigon, wrth gwrs,” meddai Carwyn Jones.
“Byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n cymryd rhan [yn y drafodaeth] er mwyn rhoi’r dewis yna i bobl.”
Gwahaniaeth barn
Wrth ofyn y cwestiwn i’r Prif Weinidog fe awgrymodd Elin Jones mai penderfyniad gwleidyddol oedd y cynlluniau i ychwanegu Jac yr Undeb ar y trwyddedau gyrru.
“Mae’n ymddangos i mi mai ymateb y Torïaid i fygythiad UKIP sydd wrth wraidd y polisi yma – mae’n fater i’r unigolyn benderfynu ar hunaniaeth,” meddai Elin Jones.
“Mae llawer o fy etholwyr i, a falle llawer o’ch etholwyr chi, yn ystyried eu hunain yn Gymry cyn eu bod nhw’n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr.”
Anghytuno â hynny wnaeth yr AC Ceidwadol Byron Davies, fodd bynnag, a ddywedodd mai baner Jac yr Undeb y dylid ei rhoi ar y trwyddedau.
“Alla’i weld pam na fyddai’r cenedlaetholwyr eisiau cryfhau’r ymdeimlad o hunaniaeth Brydeinig wrth roi baner genedlaethol y DU ar y drwydded yrru,” meddai Byron Davies.
“Fel Cymro balch fy hunan a wnewch chi, Brif Weinidog, gytuno â mi bod llawer o bobl yng Nghymru yn falch o fod yn Gymry a Phrydeinwyr?”
Mewn ymateb fe ddywedodd Carwyn Jones bod hynny’n dangos fod angen cynnig dewis o faneri.
“Mae’n gywir i ddweud bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ystyried eu hunain yn Gymry yn ogystal â Phrydeinwyr,” ychwanegodd y Prif Weinidog.
“Felly fe ddylen nhw gael y cyfle i ddewis pa faner, neu hyd yn oed y ddau, ac mae Llywodraeth Prydain wedi gwadu’r cyfle yna iddyn nhw.”