Fred Talbot
Mae’r cyflwynydd tywydd Fred Talbot wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw hanesyddol.

Mae’r gŵr 65 mlwydd oed wedi cael ei gyhuddo o 10 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar bump o blant yn eu harddegau rhwng 1969 a 1982.

Mae Talbot yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Heddiw, ymddangosodd yn Llys y Goron ym Manceinion wrth i’r rheithgor gael eu dewis ar gyfer yr achos fydd yn dechrau yfory.

Roedd y cyn-athro yn wyneb rheolaidd ar fap tywydd rhaglen This Morning pan oedd yn cael ei ffilmio yn Noc Albert yn Lerpwl.

Mae disgwyl i’r achos bara hyd at bedair wythnos.