David Cameron
Mae David Cameron wedi rhoi addewid i geisio cael gweithlu cadarn yn y DU os fydd y Ceidwadwyr yn fuddugol yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Fe wnaeth y Prif Weinidog gyfaddef ei bod hi wedi bod yn “gyfnod anodd” i’r DU, ond dywedodd fod y sefyllfa economaidd yn dechrau gwella ac fe anogodd pleidleiswyr i aros gyda’r Ceidwadwyr.

Fe wnaeth o hefyd gyhuddo’r Blaid Lafur o geisio tanseilio llwyddiant yr economi wedi iddyn nhw awgrymu bod mwyafrif y 1.75 miliwn o swyddi a grëwyd gan y Llywodraeth Glymblaid yn swyddi o ansawdd isel neu yn gytundebau dim oriau.

Nododd David Cameron fod mwy na naw o bob 10 o swyddi a grëwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn swyddi llawn-amser.

Wrth siarad yn Ipswich, fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd amlinellu pum ymrwymiad allweddol ym maniffesto’r Ceidwadwyr.

Mae’r rhain yn cynnwys:

– Parhau i gael pobl Prydain yn ôl i fyd gwaith drwy reoli mewnfudo a chyflwyno system les gadarn ar gyfer mewnfudwyr o’r UE;
– Annog menter a chefnogi busnesau bach, gan gadw trethi swyddi yn isel a thorri biwrocratiaeth;
– Buddsoddi mewn seilwaith i ddenu busnes a swyddi da ar draws y DU;
– Gwobrwyo gwaith, helpu pobl i ddod o hyd i swyddi a gostwng uchafswm budd-daliadau;
– Creu tair miliwn o brentisiaethau newydd.

Hefyd, cyhoeddodd David Cameron y bydd yn treblu nifer y benthyciadau o £5,000 sy’n cael eu rhoi i bobl sy’n dechrau eu busnes eu hunain. Bydd o leiaf 75,000 o fenthyciadau wedi cael eu rhoi erbyn 2020, yn ôl y Prif Weinidog, gan greu o leiaf 100,000 o swyddi.

Meddai David Cameron: “Mae ein nod yn glir – sef creu Prydain gyda gweithlu cadarn. Yr hyn dw i’n ei olygu gyda hynny yw cyfradd uwch o swyddi yma ym Mhrydain nag mewn unrhyw economi ddatblygedig arall. I mi, mae’n golygu bod unrhyw un sydd eisiau swydd yn gallu cael swydd yn ein gwlad.”

Ond dywedodd arweinydd y Blaid Lafur na fyddai “addewidion gwag David Cameron yn golygu unrhyw beth” i nifer o bobl sy’n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd o ganlyniad i gyflogau isel.