Cylchgrawn Charlie Hebdo
Mae Llywodraeth Niger yn dweud bod o leiaf 45 o eglwysi yn y wlad wedi cael eu rhoi ar dan mewn protest yn erbyn cartwn yng nghylchgrawn Charlie Hebdo yn dychanu’r proffwyd Mohamed.

Mewn datganiad gafodd ei gyhoeddi heddiw, mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi diwrnod o alaru ar gyfer y 10 person a gafodd eu lladd yn y protestiadau treisgar a gychwynnodd ddydd Gwener.

Roedd y rhai fu farw y tu mewn i’r eglwysi a’r adeiladau eraill gafodd eu llosgi gan brotestwyr oedd wedi’u cythruddo gan luniau o’r proffwyd Islamaidd yng nghylchgrawn Charlie Hebdo.

Cartwn arall o’r proffwyd Mohamed oedd sail ymosodiad ar swyddfa’r cylchgrawn dychanol ym Mharis lle cafodd 12 o bobol eu lladd.

Mae Llywodraeth Niger wedi rhoi addewid y bydd y rhai sy’n gyfrifol am yr ymosodiadau ar yr eglwysi yn cael eu cosbi.