Gary Glitter
Mae Gary Glitter wedi ymddangos yn y llys heddiw i barhau ag achos lle mae’n cael ei gyhuddo o gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn tair merch.

Mae’r cyn-ganwr pop 70 oed yn wynebu 10 cyhuddiad yn ymwneud a throseddau honedig yn y 1970au a’r 1980au cynnar.

Mae’n gwadu’r cyhuddiadau.

Gary Glitter oedd y person cyntaf i gael ei arestio fel rhan o Ymgyrch Yewtree, sy’n ymchwilio i achosion honedig o gam-drin hanesyddol, yn 2012.

Disgwylir i’r achos yn Llys y Goron Southwark yn Llundain bara tua chwe wythnos.