Natalie Bennett, arweinydd y Blaid Werdd
Mae arweinydd y Blaid Werdd yn gobeithio am “ddaeargryn gwleidyddol” yn yr etholiad cyffredinol ac mae hi’n credu bod y cyhoedd yn pellhau eu hunain o’r tair prif blaid.

Dywedodd Natalie Bennett ei bod hi’n hanfodol fod ei phlaid yn cael ei chynnwys mewn unrhyw ddadleuon teledu. Meddai y byddai hynny’n rhoi cydbwysedd wrth i bleidleiswyr symud i ffwrdd oddi wrth y sefyllfa bresennol yn San Steffan.

Roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi cael ei feirniadu wythnos diwethaf ar ol iddo ddweud na fyddai’n cymryd rhan mewn dadleuon teledu oni bai bod y Blaid Werdd yn cael gwahoddiad hefyd.

Roedd Natalie Bennett yn siarad mewn lansiad ymgyrch posteri newydd gan y Blaid Werdd sydd wedi’i anelu at arweinwyr y prif bleidiau.

Mae’r posteri yn cynnwys y slogan “Beth sy’n codi ofn arnoch chi fechgyn?”, i herio darlledwyr i gynnwys y Blaid Werdd mewn unrhyw ddadleuon ar y teledu.

Mae’r ymgyrch yn dod yn sgil rhagor o gefnogaeth i’r Blaid Werdd. Heddiw, mae aelodaeth y blaid wedi cyrraedd 44,175 yng Nghymru a Lloegr – sy’n uwch na’r 41,943 o aelodau sydd gan UKIP a bron cymaint â’r 44,526 o aelodau sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol.