Ni fydd maes carafanau a gwersylla yn cael ei gynnig gan Yr Urdd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015, cyhoeddodd y mudiad.

Bedwar mis cyn y digwyddiad, fe gafodd y penderfyniad ei wneud gan Gyngor yr Urdd am nad oes digon o le ger y maes.

Mewn datganiad ar wefan yr Urdd, dywedodd llefarydd: “Yn dilyn penderfyniad diweddar mewn cyfarfod o Gyngor yr Urdd, ni fyddwn yn cynnig safle maes carafanau/gwersylla yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015.

“Nid oes gofod digonol na lleoliad addas ar gael gerllaw Maes yr Eisteddfod ac o’r herwydd penderfyniad Cyngor yr Urdd yw peidio â chynnig yr adnodd.

“Hoffwn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.”

Fe fydd meysydd carafanau yn cael eu cynnig ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016 a Phen-y-bont ar Ogwr Taf ac Elai 2017.