Mae traean o Albanwyr am weld clymblaid rhwng Llafur a SNP yn San Steffan, yn ôl arolwg newydd.
Datgelodd arolwg barn Survation gyfer y papur newydd y Daily Record y byddai’n well gan 35.1% o bleidleiswyr yn yr Alban weld cytundeb rhwng y ddwy blaid ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Clymblaid rhwng Llafur a’r SNP oedd y canlyniad ôl-etholiad mwyaf poblogaidd yn yr arolwg a holodd 1,006 o bobl.
Mae Prif Weinidog Yr Alban Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud na allai ragweld yr SNP yn creu clymblaid ffurfiol gyda Llafur, ond gallai weld rhyw fath o drefniant gyda nhw.
Mae arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband hefyd wedi awgrymu na fyddai’n ceisio clymblaid gyda’r SNP, ond nid yw wedi diystyru’r peth yn gyfan gwbl.
Dangosodd yr arolwg barn hefyd mai mwyafrif i Lafur oedd yr ail ganlyniad mwyaf poblogaidd ymysg pleidleiswyr yr Alban, gyda 19.8% yn cefnogi canlyniad o’r fath, tra bod 13.8% yn cefnogi mwyafrif i’r Torïaid.
Dim ond 4.7% o bobl sydd am weld clymblaid arall rhwng y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol – llai na’r 5.5% fyddai’n hoffi gweld y Torïaid a’r UKIP yn ffurfio clymblaid.