David Cameron
Mae David Cameron wedi gwrthod beirniadaeth gan rai Mwslimiaid ynglŷn â llythyr a gafodd ei anfon at fosgiau yn Lloegr yn eu hannog i wneud mwy i ddod o hyd i eithafwyr yn eu mysg ac atal pobl ifanc rhag cael eu radicaleiddio.
Dywedodd Cyngor Mwslimiaid Prydain (MCB) eu bod nhw am i’r Ysgrifennydd Cymunedau Eric Pickles egluro pwrpas y llythyr.
Yn y llythyr, a gafodd ei anfon at dros 1,000 o arweinwyr Islamaidd, pwysleisiodd Eric Pickles a’r gweinidog cymunedau Arglwydd Ahmad eu bod nhw’n croesawu’r modd yr oedd Mwslimiaid ym Mhrydain wedi ymateb i’r ymosodiadau brawychol ym Mharis, ond fod yna “ragor o waith i’w wneud”.
Meddai’r llythyr: “Rydych chi, fel arweinwyr ffydd, mewn sefyllfa unigryw yn ein cymdeithas. Mae gennych gyfle gwerthfawr, a chyfrifoldeb pwysig, wrth egluro a dangos sut y gall ffydd yn Islam fod yn rhan o hunaniaeth Brydeinig.”
Dywedodd dirprwy ysgrifennydd cyffredinol MCB, Harun Khan, y bydd y cyngor yn ysgrifennu at Eric Pickles i ofyn iddo egluro ei gais i Fwslimiaid i “esbonio a dangos sut y gall ffydd yn Islam fod yn rhan o hunaniaeth Brydeinig”.
Meddai Harun Khan: “A yw Eric Pickles yn awgrymu o ddifrif, fod Mwslimiaid ac Islam, fel aelodau o’r dde eithafol, yn eu hanfod, ar wahân i gymdeithas ym Mhrydain?”
Ond mynnodd David Cameron fod y llythyr yn “rhesymol, synhwyrol ac yn gymedrol” ac awgrymodd fod gan unrhyw un sy’n ei wrthwynebu “broblem”.