Fe fydd y dywarchen gyntaf yn cael ei chodi ar safle ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Mhowys heddiw.

Fe wnaeth y cyngor sir gefnogi cynlluniau ar gyfer adeilad newydd i ddisgyblion Ysgol Dafydd Llwyd yn Y Drenewydd ym mis Mai’r llynedd.

Mae disgwyl y bydd yr ysgol newydd ar gyfer 270 o ddisgyblion wedi’i hagor erbyn 2016 ac yn cynnwys adnoddau ar gyfer plant sydd ag anghenion addysgol arbennig, a chyfleusterau ar gyfer addysg gymunedol i oedolion.

Daw wedi ymgyrch hir i gael safle pwrpasol ar gyfer disgyblion Cymraeg yr ardal, sydd ar hyn o bryd yn gorfod rhannu campws hefo dwy ysgol arall.

Bydd yr ysgol yn cael ei hadeiladu wrth ymyl Ysgol Uwchradd y Drenewydd.