Mae gwrandawiad cychwynnol yn achos dyn sydd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio dyn arall mewn archfarchnad Tesco yn yr Wyddgrug wedi cael ei ohirio tan yfory.
Wedi iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug y bore yma, fe fydd Zachary Peter Davies yn cael ei gadw yn y ddalfa am 24 awr.
Mae Davies, 25 oed o’r Wyddgrug, wedi’i gyhuddo o ymosod ar Sarandev Brahanbra, 24 oed o Swydd Efrog ddydd Mercher diwethaf gan ei anafu’n ddifrifol. Dywed yr heddlu bod ei anafiadau yn rhai all newid ei fywyd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn amau fod yr ymosodiad yn un hiliol.
Yn ôl adroddiadau, cafodd yr achos ei ohirio am fod yr erlyniad a’r amddiffyniad wedi ceisio sicrhau gwasanaeth yr un bargyfreithiwr.