Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill yn ne-ddwyrain Lloegr, wedi i ddyn 36 oed gael ei saethu yn gynnar heddiw.
Mae’r heddlu’n dweud eu bod yn trin y farwolaeth yn Burwell, Sir Gaergrawnt, toc wedi 2 o’r gloch y bore, fel digwyddiad ynysig.
Roedd y gwasanaethau brys wedi’u galw, ac fe ddaeth staff Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Lloegr o hyd i’r dioddefwr yn farw.
Fe gafodd ail unigolyn ei gludo i Ysbyty Addenbrooke yng Nghaergrawnt, yn diodde’ o anafiadau i’w wyneb.