Mae un person wedi marw yn dilyn tân mewn fflat yn ystod oriau mân dydd cynta’ 2015.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i fflat llawr gwaelod yn ardal Stonehouse, Plymouth, toc cyn 2 o’r gloch fore heddiw.
Y gred ydi fod tua 40 o bobol wedi cael eu symud o’u cartrefi yn y bloc o fflatiau, tra bod chwe chriw tân yn ymladd y fflamau.
Fe gafodd tri o bobol eu hachub o fflat gerllaw, ond mae llefarydd ar ran y gwasanaeth tân wedi cadarnhau i’r corff gael ei gario allan o’r fflat oedd ar dân.