Mae un o awyrennau Virgin Atlantic wedi glanio’n ddiogel ym maes awyr Gatwick ar ôl cael trafferthion gyda’r offer glanio.

Roedd y Boeing 747 ar ei ffordd i Las Vegas pan fu’n rhaid iddi ddychwelyd i Gatwick toc cyn 4yp prynhawn ma.

Mae Virgin Atlantic wedi cadarnhau bod yr awyren wedi glanio’n ddiogel a’u “blaenoriaeth yw edrych ar ôl ein teithwyr.”

Roedd ambiwlansys a diffoddwyr tan wrth ymyl y safle wrth i’r awyren hedfan uwchben y maes awyr. Roedd Virgin wedi cyhoeddi na fyddai’r awyren yn defnyddio dulliau arferol i lanio ar ôl cael problemau gyda’r offer glanio.