Y llong fferi ym Môr yr Adriatig
Mae’r holl deithwyr oedd ar long fferi ym Mor yr Adriatig bellach wedi cael eu hachub, meddai gwylwyr y glannau yn yr Eidal.
Bu farw wyth o bobl ar ôl i’r Norman Atlantic fynd ar dân fore ddoe wrth hwylio o borthladd Patras yng Ngwlad Groeg i Ancona yn yr Eidal.
Cafwyd hyd i bedwar o gyrff yn y dŵr wrth ymyl y fferi heddiw a chafwyd hyd i gorff dyn o wlad Groeg ddoe wrth ymyl bad achub.
Dywed gwylwyr y glannau bod tri corff arall wedi’u darganfod y prynhawn ma.
Mae 427 o bobl wedi cael eu hachub gan gynnwys chwech o Brydeinwyr. Mae’n debyg nad oes unrhyw un o Brydain ymhlith y meirw.
Roedd archwiliad o’r llong 10 diwrnod yn ôl wedi darganfod gwendidau difrifol yn ymwneud a diogelwch tân a threfniadau ynglŷn â chael teithwyr oddi ar y llong mewn argyfwng.
Mae’r llong yn berchen i gwmni Anek Lines o Wlad Groeg.
Bu hofrenyddion yn brwydro yn erbyn gwyntoedd cryfion a thonnau mawr er mwyn achub cannoedd o deithwyr ers i’r tân ddechrau ar y fferi fore ddoe.