Senedd Gwlad Groeg
Fe fydd Gwlad Groeg yn cynnal etholiad cyffredinol cynnar ar 25 Ionawr ar ôl i’r senedd fethu ag ethol arlywydd newydd, meddai’r prif weinidog Antonis Samaras.

Roedd ymgeisydd arlywyddol y Llywodraeth Glymblaid, y comisiynydd Ewropeaidd Stavros Dimas, 73 oed, wedi ennill 168 o’r 300 o seddi – sef 180 yn llai na’r hyn oedd ei angen.

Mae polau piniwn wedi dangos mai’r blaid adain chwith, Syriza, yw’r ceffyl blaen. Roedd y blaid yn gwrthwynebu cytundebau a wnaed er mwyn sicrhau bod y wlad yn derbyn biliynau o ewros gan wledydd eraill ym mharth yr ewro i allu talu ei dyledion.

Yn gynharach dywedodd Antonis Samaras y byddai cynnal etholiad yn “drychinebus” tra bod economi Gwlad Groeg yn parhau’n fregus.