Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod ar draeth Penarth ym Mro Morgannwg fore ddoe.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r traeth am 9.17yb dydd Sul, 28 Rhagfyr lle cafwyd hyd i gorff y dyn.
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod ond nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn.
Mae ymchwiliad i achos ei farwolaeth yn parhau ac mae’r crwner wedi ei hysbysu.
Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.