Mae sylfaenydd cwmni buddsoddi Better Capital, sy’n berchen City Link, wedi dweud nad oedd modd achub y busnes aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ar Ddydd Nadolig.

Mae mwy na 2,000 o staff y cwmni yn wynebu cael eu diswyddo ar Nos Galan, gan gynnwys 80 yng Nghymru. Mae gan City Link dri o safleoedd yng Nghymru yn Ffynnon Taf, Abertawe a Gaerwen.

Dywedodd Jon Moulton, un o gyfarwyddwr Better Capital, bod yn “ddrwg iawn” ganddo am fethiant y cwmni a’r effaith ar y gweithlu. Ond mae’n gwadu bod methiant City Link wedi cael ei gamreoli.

Mae undeb yr RMT wedi annog yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable i achub y cwmni ond dywedodd Jon Moulton bod adran y gweinidog yn ymwybodol o fethiant City Link cyn y Nadolig ac nad oedd wedi gwneud cais am gyfarfod.

Mae’r RMT wedi cyhuddo penaethiaid City Link o “gamreolaeth” ond mae Jon Moulton yn gwadu hynny.

Ychwanegodd ar raglen Today ar Radio 4 y byddai wedi bod yn amhosib achub City Link ar ôl blynyddoedd o wneud “colledion sylweddol” ac y byddai angen buddsoddiad o tua £100 miliwn i’w achub.

Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) wedi glaw ar Vince Cable i gwrdd â chynrychiolwyr yr undebau.

Roedd Better Capital wedi prynu City Link, sy’n dosbarthu parseli, am £1 yn unig ym mis Ebrill y llynedd gan gwmni Rentokil.

Dywedodd y gweinyddwyr Ernst & Young, y bydd rhai aelodau o staff City Link yn parhau yn eu swyddi am y tro er mwyn dychwelyd parseli i gwsmeriaid a helpu i ddod a’r cwmni i ben.

Mae’r RMT wedi dweud bod Vince Cable wedi cynnig cwrdd â’r undebau yn y flwyddyn newydd ond yn ôl yr undeb fe fydd yn rhy hwyr erbyn hynny i achub swyddi’r rhai sy’n cael eu diswyddo ar Nos Galan.