Mae dyn 38 oed o Abertyleri, a gafodd ei anafu’n ddifrifol ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a char, wedi marw.

Cafodd Mark David Burgham anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan gar Seat Ibiza ar yr A472 rhwng Pont-y-pŵl a Hafodyrynys yn hwyr nos Wener, 19 Rhagfyr.

Cafodd dynes 26 oed o ardal Caerffili ei harestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus a’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Dylai unrhyw un a welodd y ddamwain neu sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.