Mae Plaid Cymru wedi dweud y dylid recriwtio cyn aelodau o’r lluoedd arfog sydd â hyfforddiant meddygol ac sydd wedi colli eu swyddi, i weithio yn rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones mai colli cyfle fyddai peidio â defnyddio sgiliau’r gweithwyr meddygol proffesiynol “sydd wedi derbyn yr hyfforddiant gorau ac sydd â record o arwain dan amgylchiadau anodd.”
Yn dilyn cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ddiweddar canfu Plaid Cymru fod 80 o weithwyr meddygol milwrol wedi colli eu swyddi yn dilyn toriadau gan Lywodraeth y DU ers 2010.
Mae’r ffigwr hwn yn debyg o godi wedi i filwyr y DU adael Afghanistan, meddai’r blaid.
‘Colli cyfle’
Dywedodd Elin Jones AC: “Byddai’n colli cyfle enbyd i beidio chwilio am arbenigwyr meddygol medrus sydd wedi eu hyfforddi i lefel uchel iawn gyda phrofiad o weithio dan amodau heriol.
“Dylai’r rhai a gollodd eu swyddi yn y lluoedd arfog gael eu targedu ar gyfer eu recriwtio i GIG Cymru er mwyn helpu i gwrdd â’r galw a’r problemau o drawsnewid canlyniadau ar reng flaen y GIG er lles cleifion Cymru.
“Mae ganddynt ddigonedd o sgiliau trosglwyddadwy allai fod yn ddefnyddiol, yn enwedig yn ein hadrannau brys sydd dan gymaint o bwysau.
“Bydd gan nifer o’r cyn-aelodau meddygol o’r lluoedd brofiad o arwain, ac yr wyf yn siŵr y bydd modd i’r GIG ddefnyddio eu sgiliau.”
‘Strategaeth recriwtio’
Ychwanegodd: “Yn ddiamau, byddai’r 80 a wnaed yn ddi-waith gan y Llywodraeth Glymblaid hyd yma, fel unigolion gyda llawer o sgiliau, yn fwy na thebyg wedi dod o hyd i swyddi eraill erbyn hyn.
“Ond rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru fynd ati i adnabod a chwilio am y gweithwyr meddygol hynny allai fod yn gadael y lluoedd arfog yn y dyfodol, ac ystyried posibilrwydd datblygu strategaeth recriwtio unswydd ar eu cyfer.”
Dywedodd Elin Jones bod parch mawr tuag at gyn-filwyr gyda hyfforddiant meddygol, ac y gallen nhw “godi ysbryd staff y GIG ac ennyn hyder ymysg cleifion yn ein gwasanaeth iechyd.”