Mae dyn 36 oed wedi cael ei arestio ar ôl i gwpl oedrannus gael eu hanafu’n ddifrifol mewn ymosodiad yn ystod byrgleriaeth posib, meddai’r heddlu.
Cafodd dyn 90 oed anafiadau i’w wddf tra bod ei wraig, sydd yn ei 80au wedi cael anafiadau i’w phen yn ystod yr ymosodiad yn eu cartref yn Elm Grove, Scunthorpe neithiwr.
Dywedodd Heddlu Humberside bod dyn wedi ael ei arestio mewn eiddo yn Brigg, Gogledd Swydd Lincoln, yn gynnar bore ma ac yn cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu yn Scunthorpe.
Mae’r dyn oedrannus yn cael triniaeth yn Ysbyty Diana Tywysoges Cymru yn Grimsby tra bod ei wraig yn Ysbyty Cyffredinol Scunthorpe. Mae’r ddau mewn cyflwr sefydlog.
Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i aelodau o’r cyhoedd weld dyn yn rhedeg o gartref y cwpl, a chafwyd hyd i’r ddau gydag anafiadau difrifol.
Cafodd y dyn ei weld yn gyrru i ffwrdd mewn fan wen yn dilyn yr ymosodiad tua 5.20yh.
Mae’r heddlu’n credu bod y dyn wedi bod yn ceisio dwyn gan y cwpl.