Mae rhai o drefi Cymru ymhlith yr ardaloedd gwaethaf yng ngwledydd Prydain am yfed a gyrru.

Yn ôl ymchwil gan gwmni yswiriant Moneysupermarket, Llandrindod yw’r dref waethaf yng Nghymru, gyda bron i ddwy drosedd am bob 1,000 o yrwyr.

Abertawe sydd yn y pedwerydd safle gydag 1.76 trosedd am bob 1,000 o yrwyr, Caerdydd sydd yn chweched (1.712) a Chasnewydd yn ddeuddegfed (1.62).

Yr Alban a Gogledd Lloegr sy’n cwblhau’r ugain uchaf.

Mae gan yr Alban bum tref yn yr ugain uchaf – Inverness, Kirkcaldy, Aberdeen, Dundee a Galashiels.

Blackpool, Crewe, Amwythig, Darlington a Northampton yw’r trefi gwaethaf yn Lloegr.

Dywedodd llefarydd ar ran Moneysupermarket: “Mae canlyniadau difrifol i’r sawl sy’n cael eu dal yn torri cyfreithiau yfed a gyrru.

“Bydd y sawl sy’n cael eu canfod yn euog yn derbyn gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf 12 mis, dirwy o hyd at £5,000 ac mewn rhai achosion, cyfnod o chwe mis yn y carchar.”

Ychwanegodd fod yswiriant yn gallu codi o £350 yn dilyn euogfarn am yfed a gyrru.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Albanaidd, Danny Alexander: “Mae gyrrwr meddw yn peryglu bywydau eraill, boed nhw’n yrwyr, yn gerddwyr neu’n deithwyr yn eu ceir eu hunain.”