Y peilot o Wlad yr Iorddonen, mewn crys gwyn, sydd wedi cael ei gipio gan aelodau o IS
Mae byddin Gwlad yr Iorddonen wedi dweud bod un o’i hawyrennau wedi cael ei saethu i’r llawr wrth gynnal cyrch dros Syria a bod y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi herwgipio’r peilot.

Roedd yr awyren yn cymryd rhan mewn cyrch awyr ar dargedau IS yn Syria sy’n rhan o ymgyrch dan arweiniad yr Unol Daleithiau.

Yn ol adroddiadau roedd ymladdwyr IS wedi saethu’r awyren i’r llawr, y digwyddiad cyntaf o’i fath ers i’r cyrchoedd awyr ddechrau.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn nhalaith Raqqa, un o brif ganolfannau’r Wladwriaeth Islamaidd.

Mae cannoedd o gyrchoedd awyr wedi cael eu cynnal ar dargedau IS yn Syria ers 23 Medi.

Mae Saudi Arabia, Gwlad yr Iorddonen, Bahrain a’r Emiradau Arabaidd Unedig wedi ymuno yn y cyrchoedd awyr, tra bod Qatar wedi helpu yn y broses.

Mae canolfan newyddion Raqqa Media Centre wedi cyhoeddi lluniau sy’n dangos y peilot mewn crys gwyn, ac yn cael ei amgylchynu gan ddynion arfog.

Yn ôl adroddiadau gan y ganolfan newyddion mae ymladdwyr IS yn chwilio’r ardal rhag ofn bod ail beilot wedi dianc.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi llun o gerdyn adnabod y peilot, Mu’ath Safi Yousef al-Kaseasbeh.

Dywedodd llywodraeth Gwlad yr Iorddonen fod y Wladwriaeth Islamaidd a’u cefnogwyr yn gyfrifol am sicrhau diogelwch y peilot.

Mae IS wedi dienyddio dwsinau o filwyr Syria sydd wedi cael eu cipio yn ystod ymgyrchoedd yn y wlad. Mae’r grŵp eithafol hefyd yn gyfrifol am ddienyddio tri Americanwr a dau Brydeiniwr.