Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl i ddynes 90 oed gael ei tharo gan gar neithiwr tra’n cerdded ym Mhenarth ym Mro Morgannwg.

Fe ddigwyddodd y ddamwain am 5.10 nos Fawrth, 23 Rhagfyr ar Heol Larnog ym Mhenarth.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle mae hi mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y car Peugeot lliw arian neu’r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.