Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan
Mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan wedi galw ar bobol Cymru i gefnogi pobol sydd wedi cael cyfnod llwm eleni.
Yn ystod ei araith, galwodd ar y Cymry i helpu ffoaduriaid o Syria, ac fe gyfeiriodd at nifer o drafferthion byd-eang megis Ebola, y sgandal cam-drin plant a bygythiad y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Dywedodd y byddai Duw yn helpu pobol i “wynebu hynny sydd rhaid iddyn nhw ei wynebu”.
“Mae erchylltra rhyfel cartref yn Syria, lle mae’r Cenhedloedd Unedig yn rhagdybio bod mwy na 100,000 o bobol wedi cael eu lladd ond sydd wedi rhoi’r gorau i gyfri nawr hyd yn oed, ac mae pedair miliwn o ffoaduriaid Syria wedi ffoi i Libanus, Twrci a Gwlad yr Iorddonen.
“Allwn ni ddim anghofio bod y Duw yr ydym yn ei addoli wedi’i ddatgelu trwy’r Iesu a gafodd ei eni ym Mhalesteina, gwlad oedd wedi’i meddiannu, ac fe ddaeth ei rieni’n ffoaduriaid wrth iddyn nhw ffoi rhag dihiryn oedd yn lladd, sef Herod.
“Mae hynny’n adleisio profiadau miliynau o bobol yn ein byd.”
“Gallwn ninnau hefyd deimlo’n ddi-rym pan fo pedair miliwn o ffoaduriaid o Syria yn unig.
“Fe ddylai ein hysgogi ni, fel Cristnogion, i annog ein llywodraeth i agor ein ffiniau i lawer mwy ohonyn nhw na’r ychydig yr ydyn ni’n rhoi lloches iddyn nhw, a chyffwrdd ein calonnau ein hunain trwy fod yn hael yn ariannol i elusennau sy’n lleddfu eu trallod.”
‘Cyfnod i fyfyrio’
Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod y Nadolig yn “gyfnod i fyfyrio”.
Yn ei araith, dywedodd: “Mae’n gallu bod yn gyfnod llawn straen a phoen meddwl i lawer o bobol.
“Bydd eraill yn gweithio’n galed dros gyfnod yr ŵyl, a hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau ein gwasanaethau brys, gweithwyr y byd meddygol sy’n gweithio yma a thramor, gweithwyr elusennau, gofalwyr a’n lluoedd arfog.
“Rydyn ni’n ddiolchgar ac yn ddyledus iawn i bob un ohonynt.”
Dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron y dylid ymfalchïo yn y ffaith fod trigolion Prydain “yn rhoi, yn rhannu ac yn gofalu am eraill”.