Heddlu gwrth-frawychiaeth yn Sydney
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad gwrth-frawychiaeth i grŵp sy’n cael eu cyhuddo o gynllwynio i ladd aelod o’r cyhoedd yn Sydney.
Daw’r datblygiadau ddiwrnod yn unig ar ôl i Brif Weinidog Awstralia Ton Abatai rybuddio am fygythiad cynyddol gan grwpiau brawychiaeth ar ôl gwarchae mewn caffi yn Sydney wythnos diwethaf.
Cafodd Sulayman Khalid, 20, ei gyhuddo o fod a dogfennau yn ei feddiant a oedd yn ymwneud a chynllwyn i gynnal ymosodiad brawychiaeth a chafodd dyn 21 oed ei gyhuddo o dorri gorchymyn rheolaeth, meddai’r heddlu.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu Ffederal Awstralia Michael Phelan nad oedd unrhyw fygythiad brawychol penodol ond bod arestio’r ddau ddyn yn ymwneud ag ymchwiliad a oedd wedi arwain at nifer o gyrchoedd yn Sydney ym mis Medi.