Plismones yn gadael blodau ger y safle
Fe fydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal heddiw i gofio chwech o bobl fu farw ar ôl i lori sbwriel golli rheolaeth ar stryd brysur yn Glasgow ddydd Llun.

Bu farw tri aelod o’r un teulu – y fyfyrwraig Erin McQuade a’i nain a’i thaid Jack a Lorraine Sweeney, o Dumbarton.

Cafodd yr athrawes Stephenie Tait a Jacqueline Morton, o Glasgow, a Gillian Ewing o Gaeredin hefyd eu lladd yn y digwyddiad pan wyrodd y lori sbwriel ar y pafin gan daro siopwyr cyn dod i stop ar ol taro gwesty yn Sgwâr George.

Mae chwech o bobl, gan gynnwys gyrrwr y lori, yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty ac mae un mewn cyflwr difrifol.