Yr Arlywydd Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi croesawu tro-pedol Sony ynglŷn â rhyddhau’r ffilm ffuglenol The Interview, a fydd bellach i’w gweld mewn rhai sinemâu ar Ddydd Nadolig.

Roedd ’na ymateb chwyrn yn rhyngwladol pan gafodd y ffilm gomedi am ladd arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong-Un, ei chanslo ar ôl i hacwyr fygwth cynnal ymosodiadau brawychol ar sinemâu oedd yn dangos y ffilm.

Mae prif weithredwr Sony Entertainment Michael Lynton bellach wedi cyhoeddi y bydd y ffilm i’w gweld mewn mwy na 200 o sinemâu o yfory ymlaen.

Dywedodd hefyd bod Sony yn parhau gyda’i ymdrechion i ryddhau’r ffilm mewn ffurf eraill ac mewn rhagor o sinemâu.

“Tra ein bod ni’n gobeithio mai dyma’r cam cyntaf yn y broses o ryddhau’r ffilm, rydym ni’n falch i’w rhyddhau i’r cyhoedd a sefyll i fyny yn erbyn y rhai hynny oedd wedi ceisio atal rhyddid barn,” meddai Michael Lynton.

Daw’r penderfyniad yn sgil beirniadaeth hallt o’r cwmni yn dilyn eu cyhoeddiad wythnos ddiwethaf na fyddai’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Roedd yr Arlywydd Obama hefyd wedi beirniadu’r cwmni ond dywedodd llefarydd ar ei ran heddiw ei fod yn croesawu’r tro pedol.

“Mae’r Arlywydd wedi ei wneud yn glir, rydym ni’n wlad sy’n credu mewn rhyddid barn… Mae penderfyniad Sony a’r sinemâu sy’n dangos y ffilm yn caniatáu i bobl wneud eu penderfyniadau eu hunain am y ffilm, ac rydym ni’n croesawu’r canlyniad yma.”

Mae’r actor Seth Rogen, sy’n ymddangos yn y ffilm a hefyd wedi ei chyd-gyfarwyddo, wedi croesawu’r penderfyniad ar Twitter gan ddweud: “Mae’r bobl wedi siarad!”

Mae’r FBI wedi dweud mai Gogledd Corea oedd wedi hacio cyfrifiaduron Sony. Ddydd Llun, roedd gwasanaeth rhyngrwyd Gogledd Corea wedi cau i lawr yn dilyn ymosodiad honedig.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi gwrthod dweud a oedd llywodraeth yr Unol Daleithiau yn gyfrifol am broblemau rhyngrwyd Gogledd Corea.