Leanne Wood,
Mae angen cefnogaeth gref i Blaid Cymru fel bod gan Gymru lais “perthnasol” yn sgil yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf, meddai Leanne Wood heddiw.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru wrth raglen World at One ar BBC Radio 4 fod y posibilrwydd na fydd gan un blaid fwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin yn gyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” i Blaid Cymru.

Meddai y gallai canlyniad amhendant roi Plaid Cymru mewn safle i helpu i benderfynu pa blaid neu bleidiau fydd yn dod i rym yn y DU.

Cadarnhaodd hefyd na fyddai Plaid Cymru yn dod i unrhyw gytundeb gyda’r Ceidwadwyr ac y byddai unrhyw gytundeb gyda Llafur yn ddibynnol ar ddod a thoriadau llymder i ben a sgrapio cynlluniau i adnewyddu Trident.

Fe wnaeth Leanne Wood, arweinydd yr SNP Nicola Sturgeon ac arweinydd y Blaid Werdd Natalie Bennett gwrdd yn San Steffan yr wythnos diwethaf i drafod sut y byddai eu pleidiau yn ymateb os bydd canlyniad yr etholiad ym mis Mai yn amhendant.